Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

09 Gorffennaf 2018

SL(5)233 – Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018 (S.I. 2018/196 (W. 45)) (“y Prif Orchymyn”). Mae angen diwygio’r Ddeddf oherwydd diwygiadau a wnaed i Ddeddf Enillion Troseddau 2002 gan Ddeddf Cyllid Troseddol 2017.

O dan Ddeddf Cyllid Troseddol, cyflwynwyd pwerau i’r Ddeddf Enillion Troseddau er mwyn atafaelu, cadw a fforffedu rhai eitemau penodol a restrir, ac i rewi a fforffedu arian mewn cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu ("y pwerau fforffedu newydd"). Crëwyd dau gategori newydd o ymchwiliadau yn Rhan 8 o’r Ddeddf Enillion Troseddau, sef ymchwiliadau i eiddo sydd wedi’u cadw ac ymchwiliadau i gronfeydd sydd wedi’u rhewi  ("yr ymchwiliadau newydd").

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r Prif Orchymyn i alluogi ymchwilwyr ariannol achrededig yr Awdurdod Refeniw i ddefnyddio’r pwerau fforffedu newydd a'r ymchwiliadau newydd. Mae'r diwygiadau hefyd yn pennu pa ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n uwch swyddogion at ddibenion y darpariaethau hynny. Yn ogystal â hyn, mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â defnyddio pwerau chwilio yn adrannau 352 a 353 o’r Ddeddf Enillion Troseddau. Caiff cwmpas y ddarpariaeth yn y Prif Orchymyn ei ehangu i gynnwys yr ymchwiliadau newydd.

Mae'r Ddeddf Cyllid Troseddol yn mewnosod darpariaethau yn Rhan 7 o’r Ddeddf Enillion Troseddau  sy'n caniatáu i’r ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n uwch swyddogion wneud cais i'r llys ynadon am orchymyn o dan adran 336A o’r Ddeddf Enillion Troseddau i ymestyn cyfnod y moratoriwm. Cyfnod o 31 diwrnod yw hwn sy'n codi pan fydd amheuon o wyngalchu arian wedi dod i’r amlwg, ac yn ystod y cyfnod hwn, ni ellir tybio y bydd asiantau gorfodi'r gyfraith yn caniatáu i drafodion penodol fynd rhagddynt.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod darpariaeth yn y Prif Orchymyn i nodi pa ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n uwch swyddogion at ddibenion gorchymyn o dan adran 336A o’r Ddeddf Enillion Troseddau.

Rhiant-Ddeddf:Ddeddf Enillion Troseddau 2002; Ddeddf Cyllid Troseddol 2017

Fe’u gwnaed ar:24 Mehefin 2018

Fe’u gosodwyd ar:28 Mehefin 2018

Yn dod i rym ar:20 Gorffennaf 2018

SL(5)234 – Rheoliadau Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Darpariaeth Atodol) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 188 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Mae rheoliad 2 yn diwygio Deddf Enillion Troseddau 2002 (POCA 2002) er mwyn gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad ag adran 186 (enillion troseddau) Deddf 2016 ac ymchwilwyr ariannol achrededig Awdurdod Cyllid Cymru yn arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn Neddf 2016.

Mae’r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod pob pŵer a nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) (Diwygio) 2018 ar gael i ymchwilwyr ariannol achrededig ACC a nodir, trwy fewnosod “or the Welsh Ministers” ar ôl “Secretary of State” mewn gwahanol adrannau POCA 2002.

Rhiant-Ddeddf:Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

 

Fe’u gwnaed ar:24 Mehefin 2018

Fe’u gosodwyd ar:28 Mehefin 2018

Yn dod i rym ar:20 Gorffennaf 2018           

SL(5)235 – Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Tystysgrifau Allforio) (Cymru) 2006 er mwyn darparu ar gyfer cynnydd yn y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer gwasanaethau mewn cysylltiad â cheisiadau am dystysgrifau ffytoiechydol (gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ailallforio) a gwasanaethau cyn-allforio cysylltiedig.

Rhiant-Ddeddf:Ddeddf Iechyd Planhigion 1967

Fe’u gwnaed ar:27 Mehefin 2018

Fe’u gosodwyd ar:29 Mehefin 2018

Yn dod i rym ar:25 Gorffennaf 2018

SL(5)236 – Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio nifer o ddarnau o is-ddeddfwriaeth, ac yn gwneud newidiadau sy’n unol â diwygio’r cwricwlwm yng Nghymru fel a gymeradwywyd yn Adolygiad Annibynnol o'r Cwricwlwm a'r Trefniadau Asesu yng Nghymru gan yr Athro Graham Donaldson, a elwir fel arall yn Dyfodol Llwyddiannus.

Rhiant-Ddeddf:Ddeddf Addysg 1996; Ddeddf Addysg 1997; Ddeddf Addysg 2002; Fesur Addysg (Cymru) 2011; Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

Fe’u gwnaed ar:26 Mehefin 2018

Fe’u gosodwyd ar:29 Mehefin 2018

Yn dod i rym ar:31 Gorffennaf 2018